Mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn elusen leol â’r nod o hybu lles i bobl ddall a rhannol ddall sy’n byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy, Dinbych, Fflint, Wrecsam a gogledd Powys.
Mae ein gweithgareddau yn cynnwys rhedeg canolfan adnoddau, gwasanaeth adfer, darparu llyfrau a phapurau llafar, hyfforddi, rhoi gwybodaeth, cyngor ac adfocatiaeth i’r 3,300 o gleientiaid sydd gennym.
Sefydlwyd y gymdeithas ym 1882 a dibynnwn yn helaeth ar gefnogaeth gan lu o wirfoddolwyr a chymwynaswyr.

amdanom ni Ein Gwasanaethau cyswllt rhoddi

old nwsb website ©2010